Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2021
Amser:
09.30 -
12.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12477
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Huw Irranca-Davies AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru Lindsay Foyster, Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru Nicola Evans, Swyddfa Archwilio Cymru Dyfed Alsop, Awdurdod Cyllid Cymru Sam Cairns, Awdurdod Cyllid Cymru Melissa Quignon-Finch, Awdurdod Cyllid Cymru Adam Al-Nuaimi, Awdurdod Cyllid Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd Huw Irranca-Davies AS yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1. Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddyraniadau Covid - 14 Hydref 2021
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adolygiad annibynnol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi - 14 Hydref 2021
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Rhagor o wybodaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor - 14 Hydref 2021
2.4 PTN 4 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd Taliadau at y Llywydd: Cynllun Pensiwn Aelodau Senedd Cymru – 19 Hydref 2021
2.5 PTN 5 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban: Adroddiad Blynyddol – 19 Hydref 2021
2.6 PTN 6 - Llythyr gan y Comisiynydd Cyllideb a Llywodraethu: Gwaith ymgysylltu Comisiwn y Senedd – 19 Hydref 2021
2.7 PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Fframwaith Polisi Trethi a Chynllun Gwaith Polisi Trethi ar gyfer 2021-2026 Llywodraeth Cymru - 3 Tachwedd 2021
3 Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2022-23 a'r Adroddiad Interim: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru a swyddogion Archwilio Cymru ar y gwaith craffu ar Amcangyfrif 2022-23 a’r Adroddiad Interim.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 19 Tachwedd 2021.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2022-23 a'r Adroddiad Interim: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
6 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.
Egwyl dechnegol (11:15 - 11:30)
7 Awdurdod Cyllid Cymru – Sesiwn ragarweiniol
7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio gan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr; Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithredu; Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl; ac Adam Al-Nuami, Pennaeth Dadansoddi Data Awdurdod Cyllid Cymru.
8 Goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Telerau ac Amodau penodi’r Ombwdsmon
8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur.
9 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Trafod y dull o weithredu
9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur y Gwasanaeth Ymchwil ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a chytunodd i gymryd tystiolaeth ar oblygiadau ariannol y Bil gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.